Friday 22 August 2014

Plas Brynkir Archaeological dig- Day 6


 Day 6 – 14/08/14

I went back to where I was to expose more of the slate floor I had exposed yesterday. To do so, I had to remove several more bottles, some whole and some unfortunately broken. When I cleaned the floor up to a certain point, rows of stacked bottles could be seen there, their bases exposed. We aren’t sure why this has been done here. The bottles, again, had slates on top of them, some roof tiles (moss slates) and then another layer of soil before the stones of the upper floor.

Bill and I removed some more large stones with the winch and large branches were cut in preparation for the open day tomorrow. The upper floor was also cleaned in order for photographs to be taken with a scale to show its size for future record.

Mary discovered another piece of the ornate iron object which she suggested possible held candles whilst being suspended from the roof as the object is heavily decorated and each piece found (3 in total) are rounded and have a hook on them.

I found several pieces of a large tea cup that was white with a blue pattern on it, depicting Chinese or Japanese buildings. Lumps of pitch, fragments of corroded iron and fragments of lead were also found today.
Bill has been saying for days that there is probably a spiral staircase at the edge of the fire place similar to Pant Glas Uchaf to and today he found three steps belonging to it! Roots are a bit problematic in the area but he’s hoping to find some more of it tomorrow.

Mary and I joined up our sections at the corner of the wall to expose the slate floor right through. It probably runs the entire length of the hall, not just our trench.



Diwrnod 6 – 14/08/14

Mi es yn ol bore ma i ddadorchuddio mwy o’r llawr lechan ym mhen draw’r ffos. I wneud hynny, roedd yn rhaid i mi dynnu nifer o boteli, rhai yn gyfan a rhai yn anffodus wedi torri. O dan yr ail lawr, mae posib gweld y poteli ar ben ei gilydd mewn rhesi twt. Nid ydym yn siwr pam mae hyn wedi cael ei wneud. Ar ben y poteli, roedd llechi, rhai yn lechi mwsogl, ac ar ben rheini, mwy o bridd ac wedyn yr ail lawr.

Mi symudodd Bill a fi dipyn o gerrig mawr gyda’r winsh a chafodd nifer o ganghenion eu torri er mwyn y diwrnod agored yfory. Cafodd y llawr uchaf efyd eu llnau er mwyn tynnu lluniau ohono fel bod gennym ni record yn y dyfodol.

Cafodd Mary hyd i fwy o’r gwrthrych haearn a gafodd hi hyd iddo diwrnod o’r blaen. Mae’r haearn wedi ei addurno yn drwm ac mae’r tri darn hyd yn hyn gyda bachyn arnynt ac yn edrych fel eu bod nhw’n ffurfio cylch pan roddwyd nhw at ei gilydd. Mae Mary’n meddwl mai efallai rhywbeth i ddal canhwyllau yn hongian o’r to yw’r gwrthrych.

Cefais hyd i sawl darn o gwpan de fawr wen gyda phatrwn glas arni heddiw. Mae’r lluniau arni yn edrych fel adeiladau Chinese neu Japanese ac mae blodau o’u hamgylch. Cafodd talpiau o pitch, darnau o haearn a darnau o blwm eu darganfod heddiw hefyd.

Mae Bill wedi bod yn dweud ers dyddiau bod yna grisiau tro yn debygol o fod wrth y lle tan, yn debyg i hwnnw sydd yn Pant Glas Uchaf a heddiw mi ddadorchuddiodd dri stepan yn perthyn iddo! Mae gwreiddiau coed yn broblem yn yr ardal lle mae’r grisiau ond mae’n gobeithio darganfod mwy o stepiau fory!

Mi gliriodd Mary a fi y darn oedd rhwng y ddwy  ohonom heddiw er mwyn gweld y llawr llechan yn cario yn ei flaen i ddau ran gwahanol o’r safle. Mae’r llawr lechan yn debygol o redeg o dan y neuadd i gyd ac nid yn unig ein ffos ni.

No comments:

Post a Comment